Skip to main content

This job has expired

Cyfarwyddwr Corfforaethol - Economi a’r Amgylchedd / Corporate Director Economy & Environment

Employer
Caerphilly County Borough Council
Location
Caerphilly (Caerffili)
Salary
£117,115 - £130,128 p/a
Closing date
29 Oct 2020

View more

Job role
Director
Contract Type
Full time

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Cyfarwyddwr Corfforaethol - Economi a’r Amgylchedd

£117,115 - £130,128 y flwyddyn

Oes gennych chi’r hyn sydd ei angen i helpu arwain Tîm Caerffili?

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn sefydliad sydd â dyfodol disglair ac rydyn ni’n chwilio am Gyfarwyddwr Corfforaethol beiddgar ac uchelgeisiol i helpu’r awdurdod i gyflawni agenda drawsnewid gyffrous.

Mae ein 8,300 o weithwyr, aelodau etholedig, partneriaid a’r cyhoedd i gyd yn chwaraewyr allweddol yn y dull ‘Tîm Caerffili’, ac mae angen ymgeisydd sydd â dyheadau a gweledigaeth glir i ddod yn rhan allweddol o’r Tîm Rheoli Corfforaethol.

Bydd gennych chi brofiad helaeth a llwyddiant blaenorol fel uwch arweinydd ar lefel gorfforaethol neu mewn amgylchedd tebyg. Byddwch chi’n meddu ar ddealltwriaeth a gwybodaeth drylwyr am fyd Llywodraeth Leol Cymru a’r cyd-destun datganoledig. Bydd angen hefyd feddu ar gymhwyster rheoli a phroffesiynol perthnasol ac, uwchlaw popeth, deimlo’n angerddol am y gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu.

Am drafodaeth anffurfiol am y swydd hon, ffoniwch Lynne Donovan, Pennaeth Gwasanaethau Pobl, ar 01443 864570 neu e-bostio

donovl@caerffili.gov.uk

Y dyddiad cau yw 12pm (hanner dydd) ar 29 Hydref. Mae’r Canolfannau Asesu wedi’u trefnu ar gyfer 12 a 13 Tachwedd. Mae cyfweliadau’r Pwyllgor Penodiadau i’w cynnal ar 30 Tachwedd.

Mae pecyn ymgeisio llawn a rhagor o fanylion am y swydd wag hon ar gael ar ein gwefan - www.caerffili.gov.uk. Fel arall, gofynnwch i’n tîm recriwtio anfon pecyn ymgeisio atoch chi - 01443 866522.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gwrthwynebu gwahaniaethu o unrhyw fath ac yn bwriadu sicrhau cyfle cyfartal wrth recriwtio. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo’n llwyr i wneud popeth o fewn ei allu i barchu natur amrywiol y rheini sy’n byw yn y Fwrdeistref Sirol, yn gweithio ynddi ac yn ymweld â hi, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn natganiad cydraddoldeb y Cyngor.

Caerphilly County Borough Council

Corporate Director Economy & Environment

£117,115 - £130,128 p/a

Do you have what it takes to help lead Team Caerphilly?

Caerphilly county borough council is an organisation with a bright future and we are looking for a bold and ambitious Corporate Director to help the authority deliver an exciting agenda of transformation.

Our 8,300 employees, elected members, partners and the public are all key players in ‘Team Caerphilly’ and we need a candidate with aspirations and a clear vision to become a key part of the Corporate Management Team.

You will have extensive experience and a proven track record as a senior leader at a corporate level or similar environment. You will possess an in-depth understanding and knowledge of Welsh Local Government and the devolved context.You will also need to hold a relevant professional and management qualification and most of all need to care passionately about the services that we deliver.

For an informal discussion about this post please call Lynne Donovan, Head of People Services on 01443 864570 or e-mail donovl@caerphily.gov.uk

The closing date is 12 noon on 29th October.

Assessment Centres are scheduled to take place on 12th & 13th November.

Appointments Committee interviews to take place on 30th November.

A full application pack and further details concerning this vacancy are available on our website - www.caerphilly.gov.uk. Alternatively, please request an application pack from our recruitment team from 01443 866522.

Caerphilly County Borough Council is opposed to discrimination in any form and aims to ensure in recruitment that there is equality of opportunity. The council is firmly committed to doing all it can to respect the diverse nature of those who live in, work in and visit the county borough and this is reflected in the Council’s equalities statement.

Wedi ymrwymo i Gyfleoedd Cyfartal. Mae’r Cyngor yn gweithredu cynllun rhannu swyddi. Committed to Equal Opportunities.

The Council operates a job share scheme.

Get job alerts

Create a job alert and receive personalised job recommendations straight to your inbox.

Create alert